News By Tag * Brangwyn Hall * Wynne Evans * Brangwyn * Events * Event * St Davids Day * St Davids Week * Swansea * St Davids Week In Swansea * More Tags... Industry News News By Place Country(s) Industry News
| Digwyddiadau Wythnos Gŵyl Ddewi yn Neuadd Brangwyn yn y GwanwynMae Dinas a Sir Abertawe a'i phartneriaid yn cyhoeddi dychweliad Wythnos Gŵyl Ddewi – wythnos o ddathlu a fydd yn coffáu nawddsant Cymru ac yn dathlu etifeddiaeth Gymreig gyfoethog y ddinas o gerddoriaeth, bwyd, dawns, barddoniaeth a diwylliant.
By: City and County of Swansea Mae Dinas a Sir Abertawe a'i phartneriaid yn cyhoeddi dychweliad Wythnos Gŵyl Ddewi – wythnos o ddathlu a fydd yn coffáu nawddsant Cymru ac yn dathlu etifeddiaeth Gymreig gyfoethog y ddinas o gerddoriaeth, bwyd, dawns, barddoniaeth a diwylliant. Cynhelir y dathliadau mewn nifer o leoliadau ar draws y ddinas ond, unwaith eto, mae Neuadd Brangwyn yn chwarae rôl flaenllaw yn yr wythnos ac mae'n cynnig rhaglen wych. Wynne Evans, tenor o Gymru, yw seren yr ŵyl gyda Chôr Orffews Treforys ar 25 Chwefror. Mae Wynne yn enwog am ganu a bod yn seren mewn cyfres hysbysebu ar y teledu. Erbyn hyn, mae pawb yn ei adnabod fel y seren opera barodi Gio Compario. Ar 26 Chwefror, bydd Band Mawr ysblennydd Phil Dando yn cynnal Dawns Neuadd Gŵyl Ddewi, gan gynnwys dwy awr o gerddoriaeth fyw a dawnsio. Peidiwch â cholli'r cyfle i weld dwy ffilm Gymreig unigryw ar 28 Chwefror a 1 Mawrth pan gaiff Fortissimo Jones a Martha, Jac a Sianco eu dangos am ddim. Bydd dros 200 o blant yn morio canu yn Sant, Caneuon a Dathlu ar 29 Chwefror gyda chyngerdd arbennig iawn i ddathlu Gŵyl Ddewi. Ar 2 Mawrth, dysgwch ddawnsio gwerin mewn Twmpath traddodiadol gyda'r grŵp gwerin arobryn Jac y Do. Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae Wythnos Gŵyl Ddewi'n ddathliad wythnos o hyd y gall Abertawe ymfalchïo ynddi. Mae'n llawn digwyddiadau gwahanol a cherddoriaeth ddi-ail. “Rydym yn gobeithio y bydd trigolion ac ymwelwyr yn ymuno yn ein dathliadau diwylliannol yn ystod yr wythnos gofiadwy hon yn Abertawe.” Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a gynhelir yn Neuadd Brangwyn yn ystod Wythnos Gŵyl Ddewi. Ffoniwch Ganolfan Croeso Abertawe ar 01792 637300 neu ewch i http://www.abertawe.gov.uk/ Mae'r digwyddiadau hyn yn rhagflas yn unig o'r rhaglen gyffrous a gynhelir yn Neuadd Brangwyn eleni. Am restr lawn o'r digwyddiadau, neu i weld llyfryn diweddaraf Neuadd Brangwyn, ewch i http://www.abertawe.gov.uk/ # # # News about activities, events and attractions in Swansea, Wales, UK. Includes offers and information about leisure centres, gyms and sport; also museums, galleries, parks, shows and events in Swansea. End
|
|