Yn frwd am fwyd Cymreig?Os bwyd yw eich nwyd, byddwch yn dwlu ar y bwyd gourmet yng Nghanolfan Dylan Thomas ar ddydd Mercher, 25 Chwefror.
By: Dinas a Sir Abertawe Llun plentyn am ddim Prynwch nwyddau Cymreig lleol ym Marchnad Abertawe ddydd Iau, 26 Chwefror a chael llun o'ch plentyn mewn gwisg Gymreig wedi'i dynnu AM DDIM ar yr un pryd. Gŵyl Fwyd Cynnyrch o Gymru Mae'r South Wales Evening Post, ar y cyd â Dinas a Sir Abertawe a BID Abertawe, yn cynnal eu trydedd Ŵyl Fwyd a Diod yn Sgwâr y Castell ar ddydd Sadwrn, 29 Chwefror rhwng 9am a 5pm. Bydd siopwyr yn dod o hyd i rai o'r bwydydd gorau yng Nghymru gan gynnwys gwinoedd, cigoedd, cynnyrch llaeth, ffrwythau a llysiau o'r radd flaenaf. Blas ar y Mwmbwls Ar ddydd Sadwrn, 28 Chwefror, bydd cogyddion yn ymuno â'i gilydd yng Nghanolfan Ostreme, y Mwmbwls, i roi blas go iawn ar y Mwmbwls. Mae'n rhan o Benwythnos Gŵyl y Ddraig Dydd Gŵyl Ddewi, gyda cherddoriaeth, adloniant stryd a Gorymdaith y Ddraig. Mae nifer eraill o weithgareddau yn digwydd i ddathlu Wythnos Gŵyl Ddewi, o Ddiwrnod Cymreig gyda'r Elyrch yn Stadiwm Liberty i The Storys yn chwarae yn Neuadd Brangwyn. Ewch i http://www.dyddgwyldewi.com am ragor o fanylion. # # # News about activities, events and attractions in Swansea, Wales, UK. Includes offers and information about leisure centres, gyms and sport; also museums, galleries, parks, shows and events in Swansea. End
|
|