News By Tag News By Place Country(s) Industry News
| Twmpath yn un o uchafbwyntiau Wythnos Gwyl Ddewi Abertawe 2011Bydd Twmpath yng nghwmni'r band gwerin, Jac-y-Do, ymysg y digwyddiadau sy'n rhan o Wythnos Gwyl Ddewi yn Abertawe wrth i'r paratoadau i anrhydeddu ein Nawddsant agosáu.
By: Dinas y Sir Abertawe Bydd yr wythnos o ddathliadau o ddydd Sadwrn, 26 Chwefror tan ddydd Sul, 6 Mawrth a byddant hefyd yn cynnwys cyfle i ddysgu sut i olrhain eich gwreiddiau Cymreig yn y Ganolfan Ddinesig. Cyngor Abertawe sydd wedi trefnu'r dathliad. Nod Wythnos Gwyl Ddewi yw dathlu popeth Cymreig a bydd yn cynnwys detholiad o gerddoriaeth, celf ac adloniant. Mae'r Twmpath gyda Jac-y-Do yn ddawns ysgubor Gymreig a gynhelir yn Neuadd Brangwyn nos Wener, 4 Mawrth o 7pm. Mae digwyddiadau eraill sydd eisoes wedi'u cadarnhau yn cynnwys dathliad Gwyl Ddewi yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, pobi pice ar y maen yn Llyfrgell Townhill a Diwrnod y Llyfr yng Nghanolfan Dylan Thomas. Cynhelir Noson a Ganu a Dathlu yn Neuadd Brangwyn hefyd ar 1 Mawrth o 7pm. Bydd dros 200 o blant ysgol o chwech oed i fyny'n cymryd rhan ynghyd â Chôr Waunarlwydd. Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau Cyngor Abertawe, "Abertawe yw'r unig ddinas yng Nghymru i drefnu gwyl sy'n para wythnos i ddathlu ein Nawddsant ac mae gennym raglen amrywiol a chyffrous unwaith eto eleni i ddathlu'r hyn sy'n wych am fod yn Gymry. "Mae rhaglen yr wythnos eisoes yn llawn gyda llwyth o ddigwyddiadau gwahanol - y mae nifer ohonynt am ddim - a chaiff mwy eu hychwanegu wrth i'r cyfnod cyn y digwyddiadau barhau. "Dyma'r drydedd flwyddyn y mae'r cyngor wedi cynnal yr wyl hon a byddem yn annog yr holl fusnesau sy'n trefnu digwyddiadau Cymreig yn ystod yr wythnos i fanteisio ar y cyfleoedd marchnata sydd ar gael iddynt." Gofynnir i fusnesau neu drefnwyr digwyddiadau i gysylltu â Chyngor Abertawe i gynnwys eu gweithgareddau Gwyl Ddewi am ddim ar y wefan Wythnos Gwyl Ddewi. Gall pobl gyflwyno manylion naill ai ar-lein yn http://www.dyddgwyldewi.com neu drwy ffonio 01792 635458. # # # News about activities, events and attractions in Swansea, Wales, UK. Includes offers and information about leisure centres, gyms and sport; also museums, galleries, parks, shows and events in Swansea. End
|
| ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||