Digwyddiadau Wythnos Gŵyl Ddewi yn Neuadd Brangwyn yn y Gwanwyn

Mae Dinas a Sir Abertawe a'i phartneriaid yn cyhoeddi dychweliad Wythnos Gŵyl Ddewi – wythnos o ddathlu a fydd yn coffáu nawddsant Cymru ac yn dathlu etifeddiaeth Gymreig gyfoethog y ddinas o gerddoriaeth, bwyd, dawns, barddoniaeth a diwylliant.
By: City and County of Swansea
 
Jan. 27, 2012 - PRLog -- Nid yw un dydd yn ddigon i ddathlu ein nawddsant.

Mae Dinas a Sir Abertawe a'i phartneriaid yn cyhoeddi dychweliad Wythnos Gŵyl Ddewi – wythnos o ddathlu a fydd yn coffáu nawddsant Cymru ac yn dathlu etifeddiaeth Gymreig gyfoethog y ddinas o gerddoriaeth, bwyd, dawns, barddoniaeth a diwylliant.

Cynhelir y dathliadau mewn nifer o leoliadau ar draws y ddinas ond, unwaith eto, mae Neuadd Brangwyn yn chwarae rôl flaenllaw yn yr wythnos ac mae'n cynnig rhaglen wych.

Wynne Evans, tenor o Gymru, yw seren yr ŵyl gyda Chôr Orffews Treforys ar 25 Chwefror. Mae Wynne yn enwog am ganu a bod yn seren mewn cyfres hysbysebu ar y teledu. Erbyn hyn, mae pawb yn ei adnabod fel y seren opera barodi Gio Compario.

Ar 26 Chwefror, bydd Band Mawr ysblennydd Phil Dando yn cynnal Dawns Neuadd Gŵyl Ddewi, gan gynnwys dwy awr o gerddoriaeth fyw a dawnsio.

Peidiwch â cholli'r cyfle i weld dwy ffilm Gymreig unigryw ar 28 Chwefror a 1 Mawrth pan gaiff Fortissimo Jones a Martha, Jac a Sianco eu dangos am ddim.

Bydd dros 200 o blant yn morio canu yn Sant, Caneuon a Dathlu ar 29 Chwefror gyda chyngerdd arbennig iawn i ddathlu Gŵyl Ddewi.

Ar 2 Mawrth, dysgwch ddawnsio gwerin mewn Twmpath traddodiadol gyda'r grŵp gwerin arobryn Jac y Do.

Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae Wythnos Gŵyl Ddewi'n ddathliad wythnos o hyd y gall Abertawe ymfalchïo ynddi.  Mae'n llawn digwyddiadau gwahanol a cherddoriaeth ddi-ail.  

“Rydym yn gobeithio y bydd trigolion ac ymwelwyr yn ymuno yn ein dathliadau diwylliannol yn ystod yr wythnos gofiadwy hon yn Abertawe.”

Mae tocynnau ar werth nawr ar gyfer yr holl ddigwyddiadau a gynhelir yn Neuadd Brangwyn yn ystod Wythnos Gŵyl Ddewi.  Ffoniwch Ganolfan Croeso Abertawe ar 01792 637300 neu ewch i http://www.abertawe.gov.uk/brangwynhall  

Mae'r digwyddiadau hyn yn rhagflas yn unig o'r rhaglen gyffrous a gynhelir yn Neuadd Brangwyn eleni.  Am restr lawn o'r digwyddiadau, neu i weld llyfryn diweddaraf Neuadd Brangwyn, ewch i http://www.abertawe.gov.uk/brangwynhall

# # #

News about activities, events and attractions in Swansea, Wales, UK.

Includes offers and information about leisure centres, gyms and sport; also museums, galleries, parks, shows and events in Swansea.
End
Source:City and County of Swansea
Email:***@swansea.gov.uk Email Verified
Tags:Brangwyn Hall, Wynne Evans, Brangwyn, Events, Event, St Davids Day, St Davids Week, Swansea, St Davids Week In Swansea
Industry:Event, Music, Entertainment
Location:Wales - Wales
Account Email Address Verified     Account Phone Number Verified     Disclaimer     Report Abuse
Marketing Services, City and County of Swansea PRs
Trending News
Most Viewed
Top Daily News



Like PRLog?
9K2K1K
Click to Share